Diolch i Dduw am anfon gweithwyr i’w gynheaf! Diolch i Dduw am bump person ifanc sydd eisiau neilltuo amser i dyfu yn eu ffydd, i ddysgu, i ddatblygu doniau, cael profiad o genhadaeth mewn cyd-destun, a cael eu anfon allan i bentrefi a trefi Cymru i rannu am gariad Iesu! Clod i Dduw, mae’n gwneud llawer iawn mwy na gallwn ni ddychmygu na mentro gofyn amdano!

“Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ei gyffwrdd i'r byw, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth. Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd.”

- Iesu (yn Mathew 9:35-38)

Mae Cymru yn glytwaith prydferth o gymunedau, yn wlad o drefi a pentrefi, yn gymuned glos! Dros y degawdau diwethaf mae Cymru wedi anghofio am Iesu a chefnu ar Dduw. Does dim tystiolaeth fyw i’r Efengyl, dim gair am Iesu, dim cymuned o ffydd mewn cannoedd o drefi a pentrefi ar draws ein gwlad - mae ein brodyr, chwiorydd, ffrindau, a chymdygion fel defaid heb fugail, ddim yn adnabod cariad a gofal yr Arglwydd - O Dduw! Anfon weithwyr, cynrhychiolwyr Iesu, i feysydd Cymru!

O fis Awst 2025 byddwn ni’n croesawu pump o oedolion ifanc ar raglen Cenhadon Newydd i Gymru (CNiG) mewn partneriaeth gyda’r BSM ym mhrifysgol Baylor Texas. Bwriad y flwyddyn yw cyfuno hyfforddiant ymarferol a phrofiadau amrywiol yma yng Nghymru gyda chyfnod o hyfforddi a gweinidogaeth rhyngwladol.

Bydd y criw yn treulio pedwar mis dan ofal Will Bowden, sydd erbyn hyn yn gyfarwyddwr Baylor BSM, ond oedd gynt yn genhadwr yma yng Nghymru am bum mlynedd. Mae Will a’r tîm wedi llunio rhaglen lawn ar gyfer myfyrwyr Baylor i gael eu hyfforddi mewn cenhadaeth, tyfu fel disgyblion, a chael profiadau amrywiol yn rhannu gair Duw. Bydd CNiG yn cael cyfle i fod yn rhan llawn o’r gweithgarwch yma trwy fyw ar y campws, cael gofal arbennig mewn grwp bach, dilyn hyfforddiant ‘Pathway’, a bod yn rhan o weithgareddau cenhadol y BSM. I wybod mwy am Baylor BSM cliciwch yma.

Gweddill y flwyddyn bydd y myfrywyr ar leoliad mewn eglwysi newydd yma yng Nghymru. Wrth ysytyried ble i anfon y myfyrwyr rydym wedi ceisio dod o hyd i gyd-destun bydd yn eu herio ac ehangu eu gorwelion, ond hefyd fydd yn addas i ddatblygu a defnyddio eu doniau a diddordebau penodol nhw. Yn ogystal, bydd y myfyrwyr yn cael eu lleoli gyda eglwys bydd yn gofalu amdanynt ac bydd yn cefnogi eu taith o ddirnad galwad tu hwnt i’r flwyddyn.

Mae’r rhaglen yn cael ei lunio a gweinyddu mewn partneriaeth rhwng Ffynnon Llandysul, Emaus Bala, Baylor BSM, a gyda chymorth yr eglwysi newydd bydd y myfyrwyr ar leoliad ynddi.

Dewch i adnabod y pump drwy ddarllen isod.

A wnewch chi ystyried partneru â nhw drwy weddïo yn gyson, a/neu rhoi yn ariannol. Gallwch ddod o hyd i ddolen i gyfrannu yn unigol isod hefyd.

Alaw Elisa

Hoffwn gymryd y flwyddyn yma i ymrwymo a rhoi fy hunan i fod yn rhan o waith Duw ac i dyfu yn fy ffydd er mwyn dysgu sut i efengylu yn fy mywyd o ddydd i ddydd. 

Teimlaf y bydd derbyn hyfforddiant ym Mhrifysgol Baylor yn fuddiol ac yn fy ngalluogi i drosgwlyddo’r sgiliau cenhadu i’r gwaith o fewn eglwysi newydd yng Nghymru ac i weld sut mae Duw yn medru symud o fewn cymunedah ledled y wlad.

Diolch i chi am ystyried cyfrannu trwy weddi ac yn ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

Bedwyr Llywelyn

O'n i di bod yn mynd i capel trwy bywyd fi. O'n i ar gwersyll pan o'n i'n 12 a ges i gyfle i weddio am y tro cynta a gweld Duw yn ateb y gweddi yna! 

Gallai ddim pwyntio at un moment yn stori fi ble wnaeth popeth newid, ond trwy fod ar cyrsiau Coleg y Bala, cwrs Alffa, a treulio amser yn ty Rhys a Megi mae’r pethau yma wedi bod yn bwysig ar y daith o roi fy ffydd yn Iesu.

Blwyddyn yma dwi eisiau tyfu yn fy ffydd, mwynhau y Beibl, a dod yn ôl i Gymru i rannu Iesu gyda eraill.

Bronwen Williams

Fel Cristion newydd, hoffwn gymryd y flwyddyn yma i gwrdd a pobl eraill syn credu yr un peth a fi, ac I ddysgu mwy am dduw. 

Hoffwn i ddysgu sut mae Duw wedi gweithio ym mywydau pobl o amgylch y byd a gallu dod a’r straeon yma yn ôl i rannu gyda pobl o amgylch Pencader. 

Rwyf yn credu bydd en fuddiol i fi gael profiadau bydd yn ddefnyddiol pan gweithio yn Pencader yn y dyfodol, gyda’r gobaith o weld eglwys newydd yno.

Cadog Edwards

Pan o ni yn blentyn ifanc, fe wnaeth mam roi ei ffydd yn Iesu ac mae hyn wedi newid cwrs bywyd ein teulu yn llwyr! Trwy fod yn rhan o cymuned Emaus, cyrsiau Coleg y Bala, a perthyn i deulu Duw yng Nghymru dwi wedi cael cyfleon i glywed y newyddion da am Iesu a tyfu yn fy ffydd fy hun.

Y prif reswm dros gymryd blwyddyn allan i fi yw i ddod yn agosach at Dduw, a dysgu sut i rhannu’r gair yn effeithiol â eraill.

Diolch i bawb am ystyried cyfrannu, disgwyliwch fferins o America pan ddoi nol!

Cynan Ap Rhys

Fy rheswm dros eisiau mynd yw fy mod eisiau tyfu’n agosach i Dduw, a thyfu yn fy ffydd wrth ddysgu i rannu’r efengyl.

Mi fuaswn wir yn gwerthfawrogi pob cefnogaeth.