Rydym ni’n cyfarfod pob dydd Sul am 3:00 yn Ffynnon ar safle yr hen feithrinfa.

Beth i ddisgwyl?

Bydd pobl yma i’ch croesawu chi o 2:45 ymlaen a bydd popeth yn ddigon relaxed ac anffurfiol!

Am 3:00 byddwn ni’n dechrau, a bydd y band yn arwain rhai caneuon hen a newydd.

Ar ôl amser o ganu a joio gyda’n gilydd byddwn ni’n cael sgwrs o’r beibl a bydd y plant yn mynd mas i fwynhau Clwb Plant (3-10 oed) a Clwb Iau (11-15 oed).

Bydd y rhan yma o’r dathliad yn gorffen rhwng 4-4:15 pan fyddwn ni’n cael tê, coffi, a bwyd gyda’n gilydd.

Croeso i chi aros mor hir a hoffech chi, dydyn ni ddim yn taflu neb mas!!!

Edrych ‘mlaen i gyfarfod chi!