Ein Stori
-
Cafodd Ffynnon ei phlannu gan Steff a Gwenno Morris
gyda tîm bach nôl yn Medi 2018. Ar ôl gweithio gyda plant a phobl ifanc yng Ngholeg y Bala cafodd dyhead ei blannu yn eu calonnau i weld cymunedau o ffydd ar hyd a lled Cymru - cymunedau fyddai’n agored i bob un, yn groesawgar a chynnes, yn ei gwneud hi’n bosib i bob un glywed y newyddion da am Iesu.
-
Erbyn hyn mae gan Ffynnon gartref yn yr Hen Feithrinfa
ar safle ysgol gynradd Llandysul. Ein gobaith yw bydd adeilad Ffynnon yn adnodd cymunedol ac yn fwrlwm o weithgareddau trwy gydol yr wythnos. Yn fwy na dim ni eisiau i bawb wybod fod Iesu ar gyfer pob un, dim ots am eich cefndir na chred - mae Iesu yn croesawu pob un, ac felly mae croeso cynnes i bawb yn Ffynnon.
-
Mae Ffynnon yn fwy na adeilad! Teulu yw Ffynnon!
Wrth gwrs mae Ffynnon yn rhywle allwch chi ddod am baned, i glwb, i sgwrsio, i addoli, i ymlacio, i fwyta… ond ein gobaith yw bod Ffynnon yn gymuned y gallwch berthyn iddi, yn deulu. Dyma weledigaeth Duw ar gyfer yr eglwys - pobl! Pobl sydd yn adnabod Duw ac yn dilyn Iesu, pobl sydd yn caru a gofalu am ei gilydd a gwasanaethu eu cymuned, yn dod a gobaith a goleuni Iesu i’r byd gyda help yr Ysbryd Glân.